Llechwedd is now operated by Zip World. Click here to find out more.

Ceudyllau Llechi Llechwedd

Hafan » Teithiau » Ceudyllau Llechi Llechwedd

Teithiwch i berfeddion Llechwedd – ar y rheilffordd cebl mwyaf serth ym Mhrydain!

Profwch rai o’r seiniau eiconig sydd wedi diffinio’r ganrif a hanner ddiwethaf.  Bydd y cloc yn troi yn ei ôl 160 mlynedd wrth ichi deithio 500 troedfedd o dan ddaear. 
Bydd taflunio goleuni godidog, technoleg realiti datblygedig ac effeithiau arbennig ffrwydrol yn eich cludo i amser a lle gwahanol.  Ar eich teithiau, fe wnewch gyfarfod â pherchennog a sylfaenydd y mwynglawdd, John Whitehead Greaves, a rhai o’r dynion a’r bechgyn a dreuliodd hyd at 12 awr y dydd, 6 niwrnod yr wythnos, yn gweithio o dan ddaear mewn lled dywyllwch.

Mae’r Daith o amgylch y Ceudyllau Llechi ar gael yn Gymraeg a Saesneg ac mae’n rhedeg bob 30 munud drwy gydol y dydd.  Cyrhaeddwch 30 munud o flaen llaw, os gwelwch yn dda, ar gyfer eich taith er mwyn ichi gael eich paratoi’n briodol!

Ar ôl mynd i lawr i’r ddaear, mae taith y Ceudyllau Llechi oddeutu awr a chwarter o hyd.  Mae Ceudyllau Llechi Llechwedd yn daith gerdded ac fe ddisgwylid ichi allu mynd i lawr 61 o risiau solet, sad, sydd wedi’u goleuo’n dda.

Dowch i gyfarfod â’n tywyswyr lleol arbenigol, cyfeillgar – mae gan lawer ohonynt gysylltiadau teuluol â’r diwydiant llechi o hil gerdd, am genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth yn Llechwedd.

Ar gyfer Bwcio fesul Grŵp - Ffoniwch ni ar 01766 830306 est. 001 neu anfonwch e-bost at bookings@slatemountain.co.uk i gael disgownt grŵp - mae pob un trên yn dal hyd at 20 o bobl.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein taith o amgylch y Ceudyllau Llechi, darllenwch ein tudalen holi ac ateb estynedig yma, os gwelwch yn dda.  



{alt_text} {alt_text} {alt_text} {alt_text} {alt_text} {alt_text}

Gwybodaeth

Dilynwch ni

Keep in Touch!


You may opt out of our newsletter at any time. Please read our data protection policy here.

ZipWorld