Llechwedd is now operated by Zip World. Click here to find out more.
Anturiaeth oddi ar y ffordd i graidd Mynyddoedd Llechwedd.
A oes gennych ffansi archwilio’n mynyddoedd llechi mawreddog gydag anturiaeth dywysedig gyffrous mewn tryc milwrol 4 x 4? Daliwch eich gafael ac ymunwch â ni ar daith 1.5 awr i frig ein copaon gwneud: tirwedd eithafol 1400 troedfedd uwchben lefel y môr.
Mae ein harchwiliwr chwareli yn anturiaeth oddi ar y ffordd fydd yn mynd â chi i graidd mynyddoedd gwneud Llechwedd. Byddwch yn gyrru’n uchel i frig y chwarel ac i rai o’r craterau enfawr y gwnaethom eu gwneud drwy ffrwydro pennau’n hogofeydd cant oed. Fe ddysgwch fwy am sut y ffurfiwyd y dirwedd ryfeddol hon, a pham mae o yn awr yn destun cynnig gan UNESCO fel Safle Treftadaeth y Byd.
Mwynhewch olygfeydd o ochr o Ogledd Cymru rydych erioed wedi’i gweld o’r blaen, a chael y cyfle i dynnu lluniau gwych ar hyd y ffordd!
Ar gyfer bwcio fesul grŵp - Ffoniwch ni ar 01766 830306 est. 001 neu anfonwch e-bost at bookings@slatemountain.co.uk i gael disgownt grŵp - mae pob tryc yn dal hyd at 20 o bobl.