Llechwedd is now operated by Zip World. Click here to find out more.

Glampio yn y Chwarel

Hafan » Arhosiad » Glampio yn y Chwarel
{alt_text} {alt_text} {alt_text} {alt_text} {alt_text} {alt_text}

Croeso i Foeth-wersylla Mynydd Llechi - mae ein safle moeth-wersylla antur yn cynnig lleoliad hardd mewn tirwedd glogyrnog sy’n gyforiog o olygfeydd bendigedig a threftadaeth ddiwydiannol eithriadol.

Rydym yn falch o gyhoeddi bod ein safle moeth-wersylla wedi ennill gwobr Seren Aur oddi wrth Ymweld â Chymru – dim ond un o bump o’r math hwn yng Nghymru!

Mae gan y chwe chaban le i bedwar neu bump o bobl gysgu ynddynt ac maent yn addas i deuluoedd neu grwpiau bychain o gyfeillion.  Gan fod yn gyrchfan i ymwelwyr anturiaethus sy’n chwilio am rywle moethus i aros, mae ein cabanau saffari moethus wedi’u lleoli ar lechwedd serth, syfrdanol sy’n edrych dros weundir, dyffrynnoedd a chwareli hanesyddol Blaenau Ffestiniog. 

Mae’r cabanau hyn yn union wrth graidd atyniad mwyaf atyniadol Gogledd Cymru i dwristiaid – yn gyfleus ar gyfer Antur Mynydd Llechi, Mwynglawdd Dwfn Llechwedd, Byd Weiran Wib ac Antur Stiniog.

Lle i Fwyta

Mae ein caffi eang yn cynnig brecwast ardderchog o fwyd Cymreig wedi’i goginio, ac amrywiaeth o ddewisiadau eraill.  O amser cinio ymlaen, fe fydd ein staff rhagorol yn coginio pitsas cartref, blasus gyda chynhwysion lleol, ochr yn ochr â’n gridyll awyr agored.  Mae pitsas a byrbrydau ar gael o’n caffi Emporiwm.
A oes gennych ffansi diod adfywiol ar ôl diwrnod caled yn anturio o amgylch Gogledd Cymru?  Mae ein Tafarn y Chwarelwr yn agored yn ddyddiol, gan weini’r goreuon mewn cwrw, seidrau a gwirodydd lleol.

Prisiau  

Mae prisiau’n dechrau o £120 y caban, y noswaith ar gyfer 2019 – defnyddiwch y teclyn ar y dudalen hon i ganfod eich union brisiau ac argaeledd.
Mae opsiynau’r cabanau wedi’u ffitio â waliau pren wedi’u hinsiwleiddio er mwyn eich diogelu rhag yr elfennau.  Ac o ran y tu mewn?  Mae arnom eisiau ichi brofi holl foethusrwydd eich cartref - o loriau pren solet, gwelyau cyfforddus a chroesawgar, i gawodydd a thoiledau sy’n llifolchi.  Mae yna hyd yn oed leoedd i wefru’ch ffonau, gliniaduron a Go-Pros, a llosgydd pren cysurus.



Glamping at the Slate Caverns - 7 Nights

Gwynedd, Wales, United Kingdom
A beautiful location in a rugged landscape filled with amazing views and extraordinary industrial heritage. Our tents sleep four or five people and are suitable for families or small groups of frie...

Not ready to book yet ?

No problem .. we would suggest joining our newsletter group to keep up to date with news. We can then let you know when we have special offers and deals available.

Gwybodaeth

Dilynwch ni

Keep in Touch!


You may opt out of our newsletter at any time. Please read our data protection policy here.

ZipWorld