Llechwedd is now operated by Zip World. Click here to find out more.

Dewch i ddarganfod hanes llechi mewn tri teithiau unigryw anhygoel

Mwy o wybodaeth a fideo

Ceudyllau Llechi Llechwedd

Teithiwch i berfeddion mynydd Llechwedd – ar y rheilffordd cebl mwyaf serth ym Mhrydain!
Archebwch Nawr
Mwy o wybodaeth a fideo

Chwilio’r Chwarel

Anturiaeth oddi ar y ffordd i graidd mynyddoedd Llechwedd.
Archebwch Nawr

Wedi’i gladdu’n ddwfn o dan fynyddoedd Eryri y mae yna hanes eithriadol: craig o chwyldro a luniodd drem a gwneuthuriad y byd fel y gwyddom ni amdano. Ffordd o fywyd a adeiladodd gymunedau ac a ddiffiniodd genedlaethau o deuluoedd yng Ngogledd Cymru.

Dechreuodd hanes llechi 500 miliwn o flynyddoedd yn ôl, gyda dyddodion o laid a chlai ar wely môr hynafol. Defnyddiwyd llechi gan y Rhufeiniaid yn y ganrif gyntaf OC a chan frenhinoedd y Canol Oesoedd i gyfnerthu’u hamddiffynfeydd. Ond bu’n rhaid aros tan ddyfodiad y Chwyldro Diwydiannol cyn i’r galw am y graig lwyd nerthol wirioneddol gynyddu. Ar ei anterth, fe gyflogai’r diwydiant llechi yng Nghymru fyddin o 17,000 o ddynion. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roeddynt yn echdynnu hanner miliwn tunnell fetrig o lechi’r flwyddyn, ac roedd eu cynnyrch a holltwyd â llaw yn cael ei allforio i bedwar ban y byd.

Bydd taith Anturiaeth Mynydd Llechi yn mynd â chi ar daith anhygoel ledled y safle 2,000 erw. Gan ddechrau ag anturiaeth oddi ar y ffordd fawr i uchelderau o dros 1,500 troedfedd mewn hen dryc milwrol, fe fyddwch yn ymweld â rhai o’r safleoedd mwyngloddio hanesyddol yn Llechwedd - mae rhai bron yn 300 mlwydd oed! Ar ôl arhosiad byr am ddiod siocled poeth, fe fyddwch yn ei hanelu hi o dan ddaear ar reilffordd gebl fwyaf serth Prydain ac yn archwilio rhai o’r ogofeydd sydd o faint cadeirlan a systemau twneli roedd mwyngloddwyr yn oes Fictoria yn eu galw yn ‘gartref’.

Darganfyddwch hanes unigryw Mynydd Llechi - bwciwch eich taith yn awr!

Gwybodaeth

Dilynwch ni

Keep in Touch!


You may opt out of our newsletter at any time. Please read our data protection policy here.

ZipWorld